Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mai 2019
Amser:
09.34 -
10.06
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Helen Mary Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Nodwyd y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a chytunwyd ar yr ymateb drafft.
4.1 Trafodwyd y wybodaeth ddiweddaraf ac fe’i nodwyd. Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i'r Llywydd.
5.1 Trafododd yr Aelodau’r newidiadau a awgrymwyd ac roeddent yn cytuno â hwy.
5.2 Bydd y Clercod yn paratoi papur pellach i'w drafod ar newidiadau arfaethedig eraill ac ar ôl cytuno arnynt, bydd yr holl newidiadau'n cael eu gwneud i'r Cod ar yr un pryd.
6.1 Nododd yr Aelodau’r ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
6.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn cyflwyno ymateb ar nifer o bwyntiau a godwyd gan yr Aelodau.